
Gofynnodd UNSAIN i gyflogwyr llywodraeth leol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am godiad cyflog o £3,000. Mae cynnig o 3.2% o gynnydd ar bob pwynt cyflog wedi dod i law.
Rydym bellach yn trafod y cynnig hwn gydag aelodau ac am i chi gael dweud eich dweud. Rydym yn eich argymell i bleidleisio dros wrthod y cynnig.
Noder – os byddwch yn penderfynu gwrthod y cynnig, y cam nesaf fyddai pleidleisio am ac o bosib ymgymryd â gweithredu diwydiannol.
Gallwch ganfod beth fyddai gwerth y cynnig i chi gan ddefnyddio ein cyfrifiannell cyflog
Sut ydw i’n pleidleisio?
Cynhelir yr ymgynghoriad ar-lein. Bydd aelodau cymwys yn derbyn e-bost gyda dolen bleidleisio unigryw a diogel. Anfonir e-byst pleidleisio o 23 Mai 2025.
Gall aelodau nad ydynt eisoes wedi derbyn e-bost ac aelodau nad ydym â chyfeiriad e-bost ar eu cyfer, bleidleisio ar-lein isod.
Sicrhewch fod eich rhif aelodaeth wrth law er mwyn dilysu eich aelodaeth – bydd angen hwn arnoch cyn y gallwch bleidleisio.
Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich cerdyn aelodaeth, yn nhroedyn e-byst UNSAIN, neu drwy gysylltu â’ch cangen UNSAIN leol neu ffonio UNSAIN yn uniongyrchol ar 0800 0857 857.
- Mae’r ymgynghoriad yn agor am 09:00 ar ddydd Gwener 23 Mai.
- Mae’r ymgynghoriad yn cau am 12:00 prynhawn dydd Gwener 20 Mehefin.