Cyflog Cynghorau ac Ysgolion

Mae staff llywodraeth leol yn cadw cymunedau’n ddiogel, glân a hygyrch, ac yn aml heb fawr o gydnabyddiaeth.

Heb staff ymroddedig, ni fyddai llywodraethau lleol yn gallu gweithio. A heb gyflog teg, bydd cynghorau’n parhau i gael trafferth recriwtio a chadw staff. Ers 2010, mae staff cynghorau ac ysgolion wedi dioddef toriad cyflog o 25% mewn termau real.

Gofynnodd UNSAIN, ynghyd ag undebau eraill i gyflogwyr llywodraeth leol yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon am godiad cyflog o £3,000.

Ar ôl derbyn cynnig y cyflogwyr o gynnydd o 3.2%, ymgynghorodd UNISON ag aelodau ynghylch y cynnig.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar ddydd Gwener 20 Mehefin. Bydd pwyllgor gweithredwyr blaenllaw UNISON yn cyfarfod i benderfynu ar y camau nesaf.

Gallwch ganfod beth fyddai gwerth y cynnig i chi gan ddefnyddio ein cyfrifiannell cyflog.

Cyfrifiannell cyflog

Mae llywodraethau lleol angen ar frys llawer yn fwy o gyllid gan Lywodraeth ganolog. 

Nid oes amser i oedi. Am bob diwrnod sy’n mynd heibio heb weithred arwyddocaol, mae cynghorau’n symud yn agosach at fethdaliad, gan roi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas dan hyd yn oed yn fwy o risg sylweddol.

Mae gwaith ymchwil yn dangos petai’r Llywodraeth yn ariannu cais cyflog yr undebau’n llawn, byddai tua hanner yr arian yn cael ei adennill drwy refeniw treth uwch, llai yn cael ei wario ar fudd-daliadau a chredydau treth, a phrynwyr yn gwario rhagor yn yr economi leol.

Cysylltwch â’ch cynrychiolwyr etholedig i ofyn iddyn nhw gefnogi codiad cyflog teg a chodiad i gyllid cynghorau gan lywodraeth ganolog.

Gall eich AS godi’r mater yn uniongyrchol â’r Trysorlys a gofyn am drafodaeth yn y Senedd.

Anfonwch e-bost at eich AS

Gall eich cynghorydd lleol godi’r mater yn uniongyrchol â chyflogwyr llywodraeth leol.

Anfonwch e-bost at eich cynghorydd

Dewch o hyd i’n graffeg ymgyrch yma:

Graffeg ymgyrch

Cymerwch ran

Os nad yw eich cydweithwyr eisoes yn aelodau UNSAIN, anogwch nhw i ymuno!

Ymunwch ag UNSAIN

Rhannwch ein map rhyngweithiol, sy’n dangos graddfa’r toriadau i wasanaethau lleol ledled Cymru, Lloegr, a’r Alban. Defnyddiwch yr adnodd hwn i e-bostio eich AS, gan ofyn iddyn nhw gefnogi’r cyllid brys sydd ei angen yn fawr ar gynghorau.

Map toriadau cynghorau

Awydd chwarae mwy o ran yn yr ymgyrch hon? Cysylltwch â’ch cangen a holi ynghylch dod yn gyswllt ymgyrch cyflog yn eich gweithle.

Dewch o hyd i’ch cangen